
’R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd; “Ffarwel i ti ’mhriod, fy Ngwen,” ebai ef, “Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef.” Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth I chwyddo ’r tro olaf trwy ’i fynwes oer, gaeth; “Hyd yma ’r adduned, anwylyd, ond moes Im’ gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes.” Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed Ollyngodd alawon na chlywsid erioed; ’R oedd pob tant yn canu ’i ffarweliad ei hun, A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un. “O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn, Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo ’r dôn, Y dydd y’m gosodir fi ’n isel fy mhen,”— A’i fysedd chwareuant yr “Hen Garreg Wen.” ’R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd; Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben, Ac angau rodd fywyd i’r “Hen Garreg Wen.”